Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Hydref 2020
Amser:
14.30 -
16.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6555
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Adam Al-Nuami, Awdurdod Cyllid Cymru Dyfed Alsop, Awdurdod Cyllid Cymru Sam Cairns, Awdurdod Cyllid Cymru Rebecca Godfrey, Awdurdod Cyllid Cymru Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru Ed Poole, Canolfan Llywodraethiant Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1 Awdurdod Cyllid Cymru: cyfrifon blynyddol 2019 i 2020 - Sesiwn briffio technegol
1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar Adroddiad Perfformiad Awdurdod Cyllid Cymru 2019 - 2020 gan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr; Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth; Sam Cairns, Swyddog Gweithredu; ac Adam Al-Nuami, Pennaeth Dadansoddi Data.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2.1.Cafwyd ymddiheuriad gan Mike Hedges AS.
3 Papur(au) i'w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 2 Hydref 2020
4 Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 3
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Ed Poole, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2021-22 Comisiwn y Senedd Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân newidiadau.
7 Trafod gwybodaeth gan Gyllid a Thollau EM mewn perthynas â Chyfraddau Treth Incwm Cymru
7.1 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Cyllid a Thollau EM ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru a’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth
8 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dull o weithredu
8.1 Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21.
9 Trafod Bil y Farchnad Fewnol
9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur y Gwasanaeth Ymchwil a gohebiaeth ynghylch Bil y Farchnad Fewnol.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor y bydd y Cadeirydd, Llyr Gruffydd MS ac Alun Davies AS yn mynd i sesiwn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 2 Tachwedd, i gael tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ar drefniadau ymadael â’r UE.